What's New

This app has been updated by Apple to display the Apple Watch app icon.

App Description

Amcan yr Ap iaith Llythrennedd – Anagramau yw i ti gwblhau cymaint o eiriau ag sy’n bosibl, cyn i'r amser dy guro.
Mae yna bedair gêm wahanol sef Llenwch y bylchau; Atebwch y cwestiynau; Beth yw’r gair? a Diffiniad geiriadur. O fewn pob gêm mae tair haen sydd wedi’u graddio.
Rwyt ti’n cwblhau geiriau trwy glicio ar y llythrennau ar waelod y dudalen a bydd y llythyren yn symud i’r bocs coch. Mae clicio llythyren yn y bocs yn symud hi’n ôl i waelod y dudalen.
Am bob gair cywir, rwyt ti’n ennill pwyntiau. Os bydd gair yn anghywir byddi di’n colli pwyntiau.
Ar ôl i air gael ei gwblhau yn gywir fe fydd 'tic' yn ymddangos ger yr ateb. Bydd y cwestiwn nesaf yn ymddangos yn awtomatig.
Mae’n rhaid cael chwech allan o ddeg yn gywir i agor yr haen nesaf – dyma sut mae’n bosibl symud ymlaen i haen 2 ac yna i haen 3.
Yn ychwanegol i'r bonws am gwblhau’r gair rwyt ti’n cael bonws amser os wyt yn cwblhau'r deg cwestiwn o fewn yr amser.
Mae’r botwm seren oren ar ochr chwith y gêm yn rhoi help i ti ond byddi di’n colli pwyntiau wrth ei ddefnyddio.
Ar ddiwedd y gêm, os wyt ti wedi ennill digon o bwyntiau fe fyddi di’n ymddangos ar y sgôrfwrdd.

iPhone Screenshots

(click to enlarge)

Anagramau Iaith Gyntaf screenshot 1 Anagramau Iaith Gyntaf screenshot 2 Anagramau Iaith Gyntaf screenshot 3

iPad Screenshots

(click to enlarge)

Anagramau Iaith Gyntaf screenshot 4 Anagramau Iaith Gyntaf screenshot 5 Anagramau Iaith Gyntaf screenshot 6

App Changes

  • June 30, 2016 Initial release